Mae'r cyfrifiannell mecanyddol, yn ddyfais fecanyddol ac yn beiriant a ddefnyddir mewn rhifyddeg fel cymorth yn y broses o gyfrifo. Roedd y rhan fwyaf o gyfrifianellau mecanyddol oddeutu maint i gyfrifiaduron personol y 2o00au a chawsant eu holynu yn y 1970au gan ddyfodiad y cyfrifiannell electronig.
Mae nodiadau Wilhelm Schickard yn 1623 wedi goroesi, ac maent yn dangos iddo greu'r peiriant cyfrifo cynharaf; yn anffodus roedd gan y peiriant hwn nifer o ffaeleddau e.e. drwy wthio'r un dial mwy nag unwaith neu adio 1 i 999. Er hyn, roedd ei beiriant yn cynnwys esgyrn Napier er mwyn hwyluso lluosi a rhannu a rhan symudol, mecanyddol gyda dialau. Rhoddodd y gorau i'w ymgais yn 1624 a bu farw yn 1635. Felly, ar y cyfan, methiant oedd ei ymgais.[1][2]
Yn 1642 aeth y Ffrancwr Blaise Pascal ati, gan ddatrus y problemau a fu, a dyfeisio'r cyfrifiannell cyntaf ar gyfer cwmni casglu treth, ei dad.[3] Roedd ei beiriant yn otomeiddio'r cyfrifo llafurus ac undonog a oedd ei angen yn y gwaith.[4] Enwyd y peiriant hwn yn "Gyfrifiannell Pascal" neu'r "Pascaline".
Roedd yn rhaid aros dau gan mlynedd cyn i gyfrifiannell gael ei farchnata'n llwyddiannus, fodd bynnag, a hynny yn 1851; roedd y peiriant hwn yn ddigon cadarn i wrthsefyll yr holl ddrymio, dyddiol, mewn swyddfa. Enw'r cyfrifiannell hwn oedd yr "Arithmometer" neu'r "Thomas' arithmometer" (gweler y llun ar y dde). Am 40 mlynedd, dyma'r unig gyfrifiannell masnachol oedd ar werth.
Cynhyrchwyd y cyfrifiannell cyntaf a oedd a bysellfwrdd yn 1887, gyda naw digid 1-9. Yn 1902 gwelodd peiriant adio "Dalton" olau dydd, gyda chyffyrddell 10 digid.[5] Cyflwynwyd trydan i yrru motor mewn llawer o'r peiriannau a werthwyd o1901 ymlaen.[6] Yn 1961 roedd y Anita mk7 yn gyfangwbwl ddibynnol ar drydan i'w yrru. ond prin oedd anterth ei werthiant a gwelwyd cyfrifianellau electronig, cludadwy, cyflwr solet tua'r un pryd (cychwyn y 1960au) a pheidiwyd a chynhyrchu cyfrifianellau mecanyddol yng nghanol y 1970au, wedi cyfnod o 120 mlynedd.